Sylwadau Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru at sylw Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan nodi'r materion y dylid edrych arnynt yn ystod y Pumed Cynulliad (2016-2021)

Hoffai Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru gyflwyno'r sylwadau a ganlyn at eich sylw caredig. Mae'r Cwlwm yn gymdeithas o brif gyhoeddwyr iaith Gymraeg Cymru ac o'r farn fod ein ein maes gwaith yn un sydd yn allweddol i ffyniant bywyd diwylliannol a threftadaeth Cymru.

Maent yn ffrydiau / themâu trosfwaol syml, ond arwyddocaol, sydd yn gyffredin i waith holl aelodau'r Cwlwm ac nid ydynt, felly, yn bwyntiau manwl a phenodol iawn fel y cyfryw. Serch hynny, maent oll yn bwyntiau, neu'n feysydd, sydd o bwys i'r sector gyhoeddi ac, o ganlyniad, yn feysydd yr hoffwn i'r Pwyllgor eu hystyried fel rhan o'ch gwaith dros y 5 mlynedd nesaf.

Rydym yn nodi mai dyma'r pwyntiau a gyflwynwyd hefyd at sylw Panel Llenyddiaeth a Chyhoeddi Llywodraeth Cymru, fydd, dan Gadeiryddiaeth yr Athro Medwin Hughes, yn cyflwyno eu hadroddiad yn yr hydref.

1. Y SECTOR GYHOEDDI

Dylid ystyried y diwydiant cyhoeddi iaith Gymraeg, a'r cyhoeddwyr sydd yn rhan ohono, fel sector o waith - sector sydd yn cyflogi oddeutu 1,000 o bobol, mewn swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol amrywiol, ar hyd a lled y wlad. Dymuniad y sector yma yw datblygu'n perthynas gyda Llywodraeth Cymru, fydd yn ein galluogi i ateb, ac ymateb, i ofynion llywodraethol a pholisïau Llywodraeth y dydd dros gyfnod o amser a thrwy hynny greu partneriaeth ffrwythlon rhwng y sector a'r Llywodraeth.

2. GWELLA ISADEILADEDD TECHNEGOL A THECHNOLEG GWYBODAETH

Barn y Cwlwm yw y dylid buddsoddi yn ymarferol (drwy fuddsoddiad ariannol) ac yn strategol yn isadeiladedd TG y sector gyhoeddi, fel y gall y sector weithredu'r fasnachol gystadleuol a chynnig gwasanaeth gwell i'n cwsmeriaid. Gall hyn gynnwys rhagor o fuddsoddiad ariannol yn systemau Cyngor Llyfrau Cymru; rhyddhau arian ar gyfer cyhoeddwyr a masnachwyr unigol (ayyb) ac, ar lefel ehangach, drwy barhau i wella argaeledd band-llydan, cyflym, ar hyd a lled Cymru. 


3. GWERTH CYNGOR LLYFRAU CYMRU

Rydym o'r farn glir fod y gwasanaethau craidd a gynigir gan y Cyngor, ac ystod y gwasanaethau hynny, yn rywbeth y dylid ei warchod a'i ddathlu. Mae'r Cyngor yn cynnig cefnogaeth arbenigol, anhepgorol ac amhrisiadwy i'r diwydiant cyhoeddi iaith Gymraeg. Nid yw'r Cyngor heb ei wendidau ond mae'r cyhoeddwyr yn llwyr werthfawrogi'r gefnogaeth gadarn ac ymarferol a geir gan y Cyngor drwy holl ystod y broses gyhoeddi. Mae'r hyn a gynigir a chyflawnir ganddynt  yn rhan greiddiol o weithgaredd pob tŷcyhoeddi ac mae aelodau'r Cwlwm yn dymuno gweld hynny'n parhau.

4. DATBLYGU CYFLEODD MASNACHU

Mae'r Cwlwm yn awyddus i weld datblygu cyfleoedd masnachu (i lyfrau Cymraeg) mewn modd bwriadus a strategol e.e. drwy sicrhau man gwerthu llyfrau o Gymru mewn lleoliad amlwg yng nghanol ein prifddinas ynghyd ag ymgyrchoedd marchnata'r diwydiant tu allan i Gymru (e.e. presenoldeb amlwg, graddfa fawr, yng Ngŵyl Lyfrau Llundain, dyweder). Ar lefel gyffredinol, ein barn yw y dylid targedu a meithrin cynulleidfaoedd penodol drwy ddatblygu proffil y sector mewn digwyddiadau  a lleoliadau strategol, yng Nghymru a thu hwnt, boed hynny law yn llaw, neu fel rhan o ymgyrchoedd a blaenoriaethau presennol Llywodraeth Cymru, neu fel canghennau ategol.

5. DEUNYDD ADDYSGOL

Dymuniad y Cwlwm yw gweld cyhoeddi rhagor o ddeunydd addysgol - llyfrau yn arbennig, gan i dystiolaeth diweddar adnabod pwysigrwydd darllen llyfrau (yn hytrach na defnyddio dulliau a theclynnau technolegol) wrth hybu llythrennedd. Yn benodol felly, byddai'r Cwlwm am weld cefnogaeth Llywodraeth Cymru wrth gomisiynu llyfrau pwrpasol a safonol fyddai'n ateb y gofynion cwricwlaidd a hybu llythrennedd. Mae'r lleihad yn y nifer o lyfrau addysgol a gyhoeddir (a'r cwymp mewn gwerthiant yn ei sgil) yn faes sydd o gonsyrn mawr i sawl aelod o'r Cwlwm, nid yn unig o safbwynt masnachol ond hefyd o ran y diffygion presennol yn y ddarpariaeth addysgol. 


6. DATBLYGU TALENT

Yn olaf, pwynt cyffredinol iawn ynglŷn âphwysigrwydd datblygu talent o fewn y sector gyhoeddi - boed hynny'n dalentau creadigol neu gynorthwyol. Er mwyn denu'r goreuon i'r maes, eu cadw ynddo a'u datblygu ar gyfer llwyfannau byd-eang, byddai'n ddoeth ac amserol lansio trafodaeth ar y dulliau priodol o feithrin a datblygu ein talentau presennol, ac adnabod a meithrin talentau newydd, drwy ddulliau hyfforddiant amrywiol: prentisiaethau, secondiadau, grantiau teithio ayyb